Ni all angylion nef y nef
Nis gall angelion/angylion nef y nef

(Mawredd Cariad Crist)
Ni all angylion nef y nef,
Fynegi maint ei gariad Ef,
  Mae angau'r Groes
      yn drech na'u dawn;
Bydd canu uwch am Galfari,
Nag dim a glybu angylion fry,
  Pan ddelo Salem bur yn llawn.

Am iddo farw ar y bryn,
Cadd f'enaid bach ei brynu'n llyn,
  A'i dynn o'i gadwynau'n rhydd;
Wel, bellach dan ei haeddiant ef,
Fel cysgod rhyw gedrwydden gref,
  Gorffwysai mwy
      y'ngwres y dydd.

- - - - -
(Gorfoledd yr iechydwriaeth)
Nis gall angylion nef y nef,
Fynegi maint ei gariad ef,
  Mae angau'r groes
      yn drech na'u dawn;
Bydd canu uwch am Galfari,
Nag glywodd yr angylion fry,
  Pan ddelo Salem bur yn llawn.

Am iddo farw ar y bryn,
Ca'dd f'enaid bach ei gannu'n wyn,
  A'i dynn o'i gadwynau'n rhydd;
Byth bellach tan ei haeddiant ef,
Fel cysgod cedrwydden gref,
  Gorphwysai mwy
      y'ngwres y dydd.

Câf yno ddedwydd, dawel fyw,
Uwch brad
    gelynion o bob rhyw,
  O swn y drafferth, a phob gwae;
A threulio trag'wyddoldeb mwy,
I ganu am ei ddwyfol glwy',
  Mewn anthem fythol i barhau.

Y trysor pennaf heddyw yw,
O fewn y nefoedd, gwaed Mab Duw,
  Holl sylwedd y caniadau i gyd;
A thyna'r gwaed
    a roddodd iawn,
I ddwyfol ddigter, perffaith llawn,
  Fy hedd a'm cysur yn y byd.

- - - - -
(Cariad Crist)
Nis gall angelion nef y nef
Fynegi maint ei gariad Ef:
  Mae angeu'r groes
      yn drech na'u dawn:
Bydd canu uwch am Galfari
Nag glywodd yr angelion fry,
  Pan ddelo Salem bur yn llawn.

O dyma'r ddyfais fwya'i maes,
Y fwya'i chariad,
    fwya'i grâs,
  Agorodd ffordd o'r ddae'r i'r nef:
Cariad heb gymhar iddo'r un,
A nofiodd yn ei waed ei hun
  Trwy angeu, oedd ei gariad Ef.

Doed bellach Indiaid
    pella'r byd,
Doed gogledd, dwyrain, de, yn nghyd
  Canent ei iachawdwriaeth Ef;
Dadseinied holl dafodau'r byd,
Ag auraidd d'lynau'r nef yn nghyd,
  Na thawont tra f'o
      nef y nef.

- - - - -
Nis gall angylion nef y nef Fynegi maint ei gariad Ef - Mae angeu'r groes yn drech na'u dawn: Bydd canu uwch am Galfari, Na chlywodd yr angylion fry, Pan ddelo Salem bur yn llawn. Na boed im' feddwl ddydd na nos, Ond cariad perffaith angeu'r groes; Hwn alwa'i mwy yn orsedd gras: A'r Galfari mae mainc y nef, Yn agos at ei groesbren Ef - Oddiyno rhoddir hedd i maes. Wel dyma'r Cyfaill goreu gaed, Mae'n ganmil gwell na mam na thad - Yn mhob caledi ffyddlon yw; Mae'n medru maddeu a chuddio bai, Ac o'i wir fodd yn trugarhau Wrth bechaduriaid gwael eu rhyw. [MR]
- - - - -
(Angeu'r groes)
1,2,3,4,(5);  1,2,4;  1,3,4;  1,3,5,6;  1,4,5.
Nis gall angelion nef y nef,
Fynegi maint ei gariad ef,
   Mae angeu'r groes
       yn drech na'u dawn:
Bydd canu uwch am Galfari,
Nag glywodd yr angelion fry,
  Pan ddelo Salem bur yn llawn.

Nis teimlodd neb ond ef ei hun,
Anfeidrol werth fy enaid cun,
  Uwch da, uwch aur,
      uwch perlau drud;
Ni thalai dim ond gwaed fy Nuw,
Angeuol farwol loes, a byw,
  A'm prynai o dragwyddol lid.

Y penaf drysor heddyw yw,
O fewn y nefoedd gwaed fy Nuw,
  Holl sylwedd y caniadau i gyd:
A thyna'r gwaed
    a roddodd iawn,
I ddwyfol ddigter perffaith llawn,
  Fy hedd a'm cysur yn y byd.

Am iddo farw ar y bryn,
Ca'dd f'enaid bach ei brynu'n llyn,
  A'i dynu o'i gadwynau'n rhydd;
Byth bellach tan ei haeddiant ef,
Fel cysgod cedrwydden gref,
  Gorphwysai mwy
      y'ngwres y dydd.

Boed oesoedd meithion fwy na mwy,
Heb rif,
    heb ddarfod arnynt hwy,
  I ganu am dy ddirfawr boen:
Na thawed tafod o unrhyw,
Na dim o dan y nef sy'n byw,
  Ond sôn am goncwest
     addfwyn Oen.

Mae yn ei glwyfau drysor drud,
I faddeu beiau penau'r byd,
  O flaen yr orsedd buraf sydd:
Ni all euogrwydd yno ddim,
Fe gyll melldithion
    Sinai'u grym,
  Maddeuant perffaith garia'r dydd.
penaf drysor heddyw yw :: trysor penaf goreu'i ryw

William Williams 1717-91
[MR] = Morgan Rhys 1716-79

Tonau [888D]:
Altorf (alaw Ellmynig)
Hen Salm CXIII / Nashville (Matthäus Greiter 1500-50)
  Jade's (<1835)
Llangoedmor (John Jeffries)
Mawl (William T Rees 1838-1904)
Newcourt (Hugh Bond)

gwelir:
  Am waith ei gariad ar y groes
  Chwi weision Duw molwch yr Iôn
  Gwnaed concwest ar Galfaria fryn
  Na foed im feddwl ddydd na nos
  Ni welodd llygaid dyn erio'd
  Trwy'r nef y trysor penaf yw
  Wel dyma'r Cyfaill goreu gaed
  Yn angeu Crist caed haeddiant drud

(The Greatness of the Love of Christ)
The angels of the heaven of heaven cannot
Express the extent of his love,
  The death of the cross
      surpasses their ability;
There will be louder singing about Calvary,
Than anything the angels above heard,
  When pure Salem comes fully.

Because he died on the hill,
My little soul got redeemed thus,
  And pulled from its chains free;
See, henceforth under his merit,
Like the shade of some strong cedar tree,
  It would rest evermore
      in the heat of the day.

- - - - -
(The rejoicing of salvation)
The angels of the heaven of heaven cannot
Express the extent of his love,
  The death of the cross
      surpasses their ability;
There will be louder singing about Calvary,
Than the angels above heard,
  When pure Salem comes fully.

Because he died on the hill,
My little soul got bleached white,
  And pulled from its chains free;
For evermore under his merit,
Like the shade of a strong cedar tree,
  It would rest evermore
      in the heat of the day.

If will get there happily, quietly to live,
Above the treachery
    of enemies of every kind,
  From the sound of trouble, and every woe;
And spend eternity evermore,
To sing about his mortal wound,
  In an anthem for ever to continue.

The chief treasure today is,
Within heaven, the blood of the Son of God,
  The whole matter of all the songs;
And there is the blood
    which gave satisfaction,
To divine wrath, perfectly fully,
  My peace and my comfort in the world.

- - - - -
(The love of Crist)
The angels of the heaven of heaven cannot
Express the extent of his love,
  The death of the cross
      surpasses their ability;
There will be louder singing about Calvary,
Than the angels above heard,
  When pure Salem comes fully.

O here is the greatest plan of all,
The greatest of his love,
    the greatest of his grace,
  He open a way from the earth to heaven:
Love without any to compare to it,
Which swam in his own blood
  Through death, was His love.

Henceforth let the most distant
    Indians of the world come,
Let north come, east, south, together
  Let them sing His salvation;
Let all the tongues of the world resound,
Together with the golden harps of heaven,
  They will not be silent while ever
      there is the heaven of heaven.

- - - - -
The angels of the heaven of heaven cannot Express the extent of his love, The death of the cross surpasses their ability; There will be louder singing about Calvary, Than the angels above heard, When pure Salem comes fully. May my thought not be day or night, But the perfect love of the death of the cross; This I will call evermore a throne of grace: On Calvary the throne of heaven is Near to His wooden cross - From there peace is to be given out. See here is the best friend every had, He is a hundred time better than mother or father - In every hardship faithful he is; He is able to forgive and hide a fault, And willingly showing mercy To sinners of the worst kind.
- - - - -
(The death of the cross)
 
The angels of the heaven of heaven cannot
Express the extent of his love,
  The death of the cross
      surpasses their ability;
There will be louder singing about Calvary,
Than the angels above heard,
  When pure Salem comes fully.

No-one felt but he himself,
The infinite worth of my dear soul,
  Above goods, above gold,
      above costly pearls;
Nothing would pay but the blood of my God,
Deathly, mortal anguish, and live,
  And redeem me from eternal wrath.

The chief treasure today is,
Within heaven, the blood of the Son of God,
  The whole matter of all the songs;
And there is the blood
    which gave satisfaction,
To divine wrath, perfectly fully,
  My peace and my comfort in the world.

Because he died on the hill,
My little soul got redeemed thus,
  And pulled from its chains free;
For evermore under his merit,
Like the shade of a strong cedar tree,
  It would rest evermore
      in the heat of the day.

Let there be vast ages more than more,
Without number,
    without any passing away upon them,
  To sing about the enormous pain:
Let no tongue of anyone be silent,
Nor of anything under heaven living,
  But mentioning the conquest
      of the gentle Lamb.

In his wounds is precious treasure,
To forgive the chief faults of the world,
  Before the purest throne there is:
Guilt can there do nothing,
The condemnations of Sinai
    shall lose their force,
  Perfect forgiveness shall carry the day.
chief treasure today is :: chief treasure of the best kind

tr. 2015,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~